Newyddion S4C

Ffibromyalgia: Meddygon yn dweud bod y ‘cyfan yn dy ben’

Newyddion S4C

Ffibromyalgia: Meddygon yn dweud bod y ‘cyfan yn dy ben’

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae aelodau grŵp cymorth i bobl sy’n byw gyda ffibromyalgia yn Sir Ddinbych yn honni nad ydi rhai meddygon yn cymryd cleifion “yn ddigon o ddifrif”.

Mae’r cyflwr yn achosi poen corfforol a blinder eithafol, gyda rhai aelodau o’r grŵp yn dweud eu bod wedi gorfod aros dros ugain mlynedd am ddiagnosis.

Dywedodd Nia McGregor o Ruthun wrth Newyddion S4C ei bod wedi ceisio lladd ei hun sawl gwaith oherwydd y diffyg cymorth deiagnosis gyda'r cyflwr sy'n achosi poen corfforol a blinder eithafol.

“Mae meddygon yn pasio ti o gwmpas yr adrannau i gyd," meddai.

"Ti’n colli annibyniaeth, doedd gen i neb i siarad efo fo. O’n i really isio lladd fy hun.” 

Yn ôl y fam a’r nain 48 oed roedd ei chyflwr mor llethol nes iddi geisio dod â'i bywyd i ben dair gwaith.

“’Aru mam ddod a safio fi," meddai. “Ond, weithia dwi’n teimlo fel - pam fasa ti just gadael fi?”

Wedi saith mlynedd o brofion, sganiau a chymryd “pob math o foddion”, yn 2014 cafodd ddeiagnosis swyddogol o ffibromyalga. Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd: "Ar fy isaf roeddwn yn cymryd 79 o dabledi bob dydd.

“Ac mae side effects y tabledi yr un mor ddifrifol â'r problemau sydd gen ti i ddechrau," meddai. "Rois i bump stôn ymlaen.

“Oni’n treulio mywyd yn eistedd ar y soffa yn crio.”

'Ddim yn gwybod be' i wneud'

Mae Nia yn un o’r dros 200 o aelodau grŵp cymunedol newydd sydd wedi ei sefydlu i gefnogi rhai sy’n byw efo’r cyflwr a’u teuluoedd yn Sir Ddinbych.

Cyn cael diagnosis, roedd Nia yn gweithio yn y byd iechyd a diogelwch fel archwilydd sgaffaldiau. Roedd hi’n hoffi teithio a mynd am dro ar ei beic modur, ond ers y salwch mae pob symudiad yn achosi poen drwy’i chorff.

“Mae o’n effeitho bob dim,” meddai. “Mae gwisgo dillad yn brifo, mae siarad efo pobol yn brifo. Dwi ddim yn gallu gweitho, na gyrru car. Dwi jest yn eistedd adra.”

Yn aml, mae ffibromyalgia yn taro ar ôl digwyddiad o straen corfforol neu emosiynol.

Dywedodd Nia iddi ddioddef o endometriosis ers yn 11 oed, a pham oedd hi’n 20 oed cafodd lawdriniaeth hysterectomy. Mae hi’n credu efallai mai’r trawma hwnnw oedd i gyfri am y ffibromyalga yn cydio flynyddoedd yn ddiweddarach. 

Yn ystod y saith mlynedd heb ddeiagnosis, eglurodd Nia ei bod hi’n teimlo yn isel iawn gan nad oedd meddygon yn gallu cynnig atebion. “Doedden nhw ddim yn gwbod be i neud efo fi,” meddai.

“Ar un pwynt – roedd rhaid i mi fynd i Ysbyty Glan Clwyd am nad oeddwn i wedi gallu defnyddio'r toiled am 49 diwrnod.

“Roedd hyn i gyd oherwydd faint o dabledi ’oeddwn i'n eu cymryd.”

'Anwybodaeth'

Yna, un diwrnod mi benderfynodd bod rhaid i’r sefyllfa newid. “Roedd y tabledi yn fy lladd i, a doedden nhw ddim yn gwneud gwahaniaeth achos roeddwn i'n dal mewn poen.”

Daeth o hyd i feddyg gwahanol ac mi newidiodd ei phresgripsiwn. Bellach mae Nia yn cael morphine at y boen. “Dim ond saith tabled y dydd dwi'n eu cymryd rwan a dwi’n gallu ymdopi yn llawer gwell.”

Ers y diagnosis o ffibromyalgia ddeng mlynedd yn ôl tydi bywyd ddim wedi bod yn hawdd i Nia. Yn 2020, ychydig cyn y pandemig Covid-19, mi gafodd gansyr y fron a mastectomy dwbwl.

Mae byw gyda poen y ffibrogymalgia yn “rhwystredig uffernolm” meddai Nia, “’Da chi'n colli eich annibyniaeth. Mae'n rhaid i mi ddibynnu ar fy mam, mae hi'n mynd â fi i bobman.” 

“Chi'n gweld pobl eraill yn gwneud pethau na allwch chi eu gwneud, pethau yr oeddech chi'n arfer eu gwneud.

“Anwybodaeth ydi’r prif broblem” yn ôl Nia, “hyd yn oed gyda meddygon teulu.

“Am amser hir, roedd yna feddylfryd mawr yno, fod y cyfan yn fy mhen i.”

Newidiodd pethau ar ôl iddi weld arbennigwr mewn rhewmatoleg. Mae hi’n dweud iddo gymryd “un golwg arna i”  ac mi ddwedodd yn syth “dwi'n gwybod nad yw yn eich pen chi".

Image
Kevin a Pam Jones
Kevin a Pam Jones

Cefnogaeth

Wrth weld ei wraig sydd â ffibromyalgia yn “dioddef ar ei phen ei hun,” mi benderfynodd Kevin Jones o Rhuthun sefydlu grŵp cymunedol er mwyn rhoi cyfle i bobol rannu profiadau.

“Ro’n i’n gweld nad o’n i yn medru rhoi y gefnogaeth lawn iddi,” meddai. “’O’n i’n teimlo basa pobol eraill sydd efo fibro yn gallu gwneud yn well.”

Erbyn hyn mae gan y grŵp ar-lein dros 200 o aelodau ac maen nhw’n cyfarfod yn fisol mewn caffi lleol.

Yn ôl Kevin mae codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn bwysig o fewn y “gymuned feddygol a’r cyhoedd.” Mae o a’i wraig, Pam, yn poeni nad ydi rhai meddygon “yn ei gymryd o yn ddigon serious.

“Efallai ei fod o braidd yn loteri côd post, ella eich bod chi’n lwcus gyda’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd. Mae’n wirioneddol hit and miss os gewch chi ddiagnosis ai peidio, ac o fewn amserlen sy’n dderbyniol.

“Mae rhai o aelodau’r grŵp yma wedi aros dros 20 mlynedd am ddiagnosis.”

Er nad oes “digon o bobol yn deall amdan yfo,” yn ôl Kevin, mae o’n deud fod rhannu gwybodaeth ar-lein yn help. “Mae ’na ’chydig mwy o sylw yn cael ei roi i ffibromyalgia pan glywch chi am enwogion efo’r cyflwr.

“Os ydi hynna yn Lady Gaga neu beth bynnag, y cyfryngau cymdeithasol yn bennaf ydi’r prif lwybr o drafod y broblem.”

Mae'n gobeithio y bydd llwyddiant grŵp cymorth Sir Ddinbych yn ysbrydoli eraill i sefydlu grwpiau ledled Cymru.

Image
Angharad Rees
Angharad Rees

Angharad Rees

Ar ôl cael diagnosis o’r syndrom prin Ehlers-Danlos, mae Angharad Rees, 45 oed, o Llandegla, wedi cael cadarnhad fod ganddi hefyd ffibromyalgia. 

Ond, mae hi’n dweud fod cael deiagnosis wedi bod yn anodd iawn, gyda rhai meddygon yn ei chyhuddo o “ddweud clwyddau” am ei symptomau.

“Mae o’n neud i ti deimlo bo ti werth dim byd," meddai. “Bo ’na neb yn gwrando arnat ti.

“Mae’r medical gaslighting dyddia yma wedi mynd yn ofnadwy."

Mae hi’n cofia eistedd mewn ystafell mewn ysbyty yn “crio a chrio” ar ôl i arbennigwr ddweud wrthi nad oedd hi’n dweud y gwir am ei symptomau.

“Be ma’n nhw’n weld ydi bod ti’n ypsetio ac yn crio, ac yna yn deud wrtha ti yn bendant mai cyflwr iechyd meddwl ydio," meddai.

“Mae’r rhwystredigaeth yn ofnadwy achos does na neb yn gwrando.”

Mae Angharad yn galw ar bobol o fewn y byd meddygol i “wrando fwy ar y claf”.

“a pheidio cymryd yn ganiataol eu bod nhw’n gwybod yn well”

“Dwi’n nabod fy nghorff yn well nag unrhyw ddoctor,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn i’r doctoriaid, y llywodraeth a’r gymuned i gyd i wrando - ar ein lleisiau ni sy’n deud wrthoch chi ‘da ni yn diodde’."

Mae hi’n falch fod y grŵp Fibrogymlagia Rhuthun wedi ei sefydlu, ac yn cael cysur o gyfarfod eraill sydd yn yr un sefyllfa.

“Da ni’n gymorth i’n gilydd ac mae hynny yn wych, ond da ni’n disgwyl mwy gan y meddygon a gan y llywodraeth i neud mwy droso ni.”

FibroSupport Wales

Mae FibroSupport Wales, yr elusen sy’n cefnogi unigolion sy’n byw yng Nghymru, wedi gweld “cynnydd amlwg” yn ddiweddar mewn ceisiadau am gymorth gan bobol o Loegr, ac maen nhw'n “gweithio i fynd i'r afael â hyn” o fewn eu gallu.

Mae’r elusen yn cynnig cymorth dros amryw blatfformau gan gynnwys apwyntiadau wyneb yn wyneb. Gyda dros 3,700 o aelodau bellach yn rhan o grŵp Facebook cymorth cymunedol caeedig “mae'r platfform yma wedi dod yn ofod hanfodol” meddai Steffan McMahon, sylfaenydd yr elusen.

“Cymaint felly fel bod llawer o'n haelodau wedi dweud fod y cymorth maen nhw'n ei dderbyn gan ein tîm yn rhagori ar gymorth gweithwyr meddygol proffesiynol," meddai.

“Rydym yn gyson chwilio am bartneriaethau newydd i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i'r rhai sy'n dibynnu arnom.”

Ymateb

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydnabod fod mwy i wneud o ran casglu data, ond eu bod yn rhoi wyth miliwn bob blwyddyn i’w cynllun Adferiad er mwyn ehangu gwasanaethau sy’n trin cyflyrau fel ffibromyalgia.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ehangu gwasanaethau ein rhaglen Adferiad, a sefydlwyd i drin Covid hir, i gyflyrau eraill sy’n gysylltiedig ag ôl-haint a symptomau aml-system sy’n gorgyffwrdd, fel ffibromyalgia.

“Rydym yn buddsoddi £8 miliwn o gyllid blynyddol i’r rhaglen sy’n helpu i wella mynediad at wella yn y gymuned lle’r oedd bylchau’n bodoli o’r blaen.

“Er ein bod yn cydnabod bod angen mwy o gynnydd, yn enwedig o ran casglu data, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn datblygu wrth i’n dealltwriaeth a’n sylfaen dystiolaeth dyfu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.