Newyddion S4C

Newid enw Cymraeg stryd i gywiro gwall cyfieithu wedi dros ddegawd

Yr arwydd

Bydd camgymeriad cyfieithu ar arwydd yn Sir Fynwy sydd wedi bod yn ei le am dros ddegawd yn cael ei gywiro o'r diwedd ar ôl i aelod o'r cyhoedd gwyno.

Roedd 'Springfield Road' yn y Fenni wedi ei gyfieithu i 'Heol Maes y Gwanwyn' - er mai tarddell ddŵr oedd y 'spring' yn cyfeirio ato ac nid y tymor.

Roedd y gwyn wedi ei chynnwys yn rhan o adroddiad i Gyngor Sir Fynwy yn ei adroddiad blynyddol ar safonau'r iaith Gymraeg.

Dywedodd: "Roedd y gair 'gwanwyn' wedi'i gam-gyfieithu i adlewyrchu'r tymor yn hytrach na ffynhonnell ddŵr."

Yn dilyn y cwyn, fe aeth swyddog iaith y cyngor a'r swyddog enwi a rhifo strydoedd ati i ymchwilio.

Ar ôl ymgynghori â chyfieithydd fe gytunwyd ar yr enw cywir "Heol Cae'r Ffynnon".

Dywedodd yr adroddiad y bydd yr arwydd yn cael ei gywiro y tro nesaf i'r arwyddion gael eu diweddaru.

Dywedodd: "Mae’r cyfieithiad gwreiddiol, a wnaed dros ddegawd yn ôl, yn bodoli cyn i'r safonau cyfredol gael eu rhoi ar waith, ac nid oes unrhyw gofnodion yn egluro’r penderfyniad cychwynnol ar gyfer y cyfieithiad hwn.

"O ganlyniad, mae’r cyngor yn parhau i gryfhau ei broses gyfieithu trwy gydweithio rhwng swyddogion a chyfieithwyr, gan sicrhau cysondeb a sensitifrwydd diwylliannol ym mhob proses enwi strydoedd yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.