
'Dal ffordd i fynd i bêl-droed llawr gwlad merched Cymru'
'Dal ffordd i fynd i bêl-droed llawr gwlad merched Cymru'
Yng nghanol cyffro a llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth i fenywod Cymru gystadlu yn Euro 2025, mae rhai sy’n flaenllaw ar lefel llawr gwlad eisiau gweld mwy o ddatblygiadau angenrheidiol.
Dywedodd Rhiannon Williams sy'n hyfforddi tîm merched: "Fi’n gweld bod mwy a mwy o ferched yn chwarae, sy’n ffantastig ond dwi’n teimlo o ran cyfleusterau bod dim digon o rheina i gael.
"Da ni wedi bod i gemau oddi cartref lle does dim toiledau, dim ystafelloedd newid a pan y'ch chi’n siarad am ferched yn tyfu lan, cyrff yn newid, mislif ac yn y blaen. Chi moyn i nhw i deimlo yn saff."
Yng Nghlwb Pêl-Droed Clydach, ger Abertawe, ers sefydlu timau pêl-droed i fenywod, mae’r galw wedi cynyddu’n sylweddol.
Ac mae hyfforddwr tîm dan 14 y clwb, Steve Thompson, yn falch o weld y gêm yn ffynnu.
“Mae 200 o chwaraewyr benywaidd yn y clwb erbyn hyn gan gynnwys tîm menywod nawr ac ail dim," meddai.
“Mae timoedd o dan 6 hyd at 14. A tua 20 neu 30 ym mhob grŵp oedran sy’n wych.”

Datblygu’r gamp ar lawr gwlad yw un o nodau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru a gwella’r cyfleusterau yn rhan o hynny.
Gyda phencampwriaeth Euro 2025 yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, mae’r Cymru Football Foundation wedi sefydlu rhaglen ariannu newydd 'Environments for her' i fuddsoddi mewn cyfleusterau oddi ar y cae i fenywod a merched ledled y wlad.
Fe fydd hyd at £1,000,000 ar gael i greu awyrgylch croesawgar a diogel ac mae’n rhan o ymgais i ddyblu cyfraniad merched mewn pêl-droed ar draws Cymru yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol.

Ac yn ôl Aled Lewis o’r Cymru Football Foundation, mae cyffro am y datblygiadau posib.
“Ni’n rili bles ein bod ni yn gallu defnyddio’r gronfa yma i ddilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol a chreu cymaint o dimoedd a chyfleoedd ar draws Cymru," meddai.
Ar lawr gwlad felly, mae yna groeso i fwy o fuddsoddiad a sylw i’r gamp wrth i dîm Rhian Wilkinson gyrraedd prif bencampwriaeth am y tro cyntaf.
A gobaith fydd gwaddol hynny yn cael effaith ar genhedlaeth nesaf tîm pêl-droed menywod Cymru.