‘Mae’r blaid ar ei thîn’: Richard Wyn Jones yn marcio’r arweinwyr gwleidyddol

Y Byd yn ei Le

‘Mae’r blaid ar ei thîn’: Richard Wyn Jones yn marcio’r arweinwyr gwleidyddol

Faint o farciau allan o ddeg mae arweinwyr gwleidyddol Cymru a’r DU yn eu cael gan yr arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones?

Dim ond pedwar allan o 10 fyddai yn ei roi i Brif Weinidog y DU Keir Starmer, a phump allan o 10 i Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan, meddai.

“Mae’r ddau wedi etifeddu sefyllfaoedd gwanhaol,” meddai wrth Y Byd yn ei Le.

“Yn amlwg oedd Eluned Morgan wedi etifeddu sefyllfa anodd iawn, felly dwi’n meddwl bod rhywun gorfod bod ychydig bach yn fwy trugarog efo hi.

Image
Keir Starmer ac Eluned Morgan
Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan

“Ond ddaru Starmer ennill buddugoliaeth enfawr - oedd o’n amlwg bod Llafur am ennill yr etholiad am gyfnod estynedig cyn yr etholiad.

“Ac eto, mae fel petai nhw wedi dod i rym a ddim yn gwybod beth oedden nhw’n bwriadu ‘neud.”

Ceidwadwyr

Roedd marciau hyd yn oed yn fwy llym i’r Ceidwadwyr.

Dim ond pedwar marc fyddai Darren Millar yn ei gael ac un marc yn unig oedd i Kemi Badenoch. 

“Ar lefel Gymreig ma Darren Millar wedi etifeddu talcen caled iawn, iawn, iawn,” meddai.

“Mae’r blaid ar ei thîn ac mae’n ceisio adfer rhy fath o’r sefyllfa yma.

Image
Badenoch / Millar
Kemi Badenoch a Darren Millar

“Ar y lefel Brydeinig, mae’n ymddangos i fi fod nhw wedi gwneud y dewis anghywir efo Kemi Badenoch.

“Ond mae hi’n trio bod yn fwy Reform na Reform a fedri di ddim ennill fel ‘na.”

Plaid Cymru

Roedd Plaid Cymru yn cael gwell marc ar sail Etholiad Cyffredinol llwyddiannus ond roedd yn anodd gwybod ers hynny meddai Richard Wyn Jones.

“Roedd yr Etholiad Cyffredinol flwyddyn yn ôl yn dda iawn.” meddai.

“Eu hetholiad cyffredinol gorau erioed. Rhun ap Iorwerth oedd y gwleidydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

“Ers hynny mae’r blaid wedi bod yn llawer iawn llai amlwg, ond fysa falle rhywun yn disgwyl hynny.

“Y cwestiwn iddyn nhw ydy be’ maen nhw’n ‘neud dros y flwyddyn nesa’?

“Etholiad Cyffredinol y llynedd - wyth allan o ddeg. 

Image
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

“Ers hynny mae’n anodd iawn dweud achos lot o stwff yn y cefndir sy’n digwydd.

“A dydw i ddim yn gwybod pa mor llwyddiannus ydyn nhw’n adeiladu peiriant ar gyfer yr etholiad nesaf.”

‘Rhwygo’u hunain yn ddarnau’

Fe fu gwleidyddion o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a Llafur Cymru hefyd yn cael eu holi gan Y Byd yn ei Le.

Fe holodd Catrin Haf Jones a oedd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn pryderu y byddai sgiliau ymgyrchu'r Blaid Lafur yn dod i’r amlwg erbyn etholiadau’r Senedd.

“Mae’r Blaid Lafur yn gwybod sut mae ennill etholiadau, mae hynny’n hollol amlwg,” atebodd.

“Y broblem fawr sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd - maen nhw’n rhanedig. 

“Yn y gorffennol, bosib maen nhw wedi bod yn rhanedig, ond ti’m ‘di weld o. 

“Erbyn hyn, mae o’n hollol amlwg bod y blaid yn rhwygo’u hunain yn ddarnau, ac felly be’ da’ ni [Plaid Cymru] angen ‘neud ydy dangos bod gennym ni’r momentwm, bod gennym ni’r weledigaeth a chael ein stori ni ac ein naratif ni allan i bobl Cymru.

“Ac mae hynny yn ychydig o her efo cyfryngau fel y maen nhw - pob tro mae Farage yn dweud rhywbeth neu’n gwneud rhywbeth, mae’n cael gymaint o coverage - ac mae hynny’n real issue o ran democratiaeth yng Nghymru, ein bod ni ddim yn cael ein clywed cystal.”

Dywedodd Calum Davies o’r Ceidwadwyr ei fod ef dal yn ffyddiog o droi pethau rownd gyda 10 mis i fynd nes etholiadau’r Senedd.

“Wel, dwi’n meddwl bod pethau’n edrych yn ddifrifol dros y wlad i gyd, rili,” meddai.

“Dwi’n credu bod y wlad angen y Ceidwadwyr mwy na byth, oherwydd os ‘da chi’n edrych ar beth mae Keir Starmer yn methu ‘neud efo majority enfawr yn San Steffan, dwi’m yn meddwl bod lot o faith yn y Blaid Lafur i newid pethau fel’na. 

“Dwi’m yn meddwl mai Plaid Cymru, sydd yn cynnig lot o bolisïau sy’n ‘path of least resistance’, beth sy’n hawddach - dyna’r broblem sydd efo’r wlad, ni ‘di bod yn styc mewn consensws lle mae’r pleidiau yn cytuno ar lot [o bethau]- a dyna’r problemau ariannol sydd gan y wlad ‘wan. 

“Beth dwi’n gobeithio sy’n digwydd ydy pan fyddwn ni’n dod yn agosach i’r etholiad, bydd pobl yn ffocysu’n fwy ar beth sydd ar offer.

Dywedodd Owain Williams o’r Blaid Lafur ei fod yn cytuno y byddai yn “drychinebus” petai ei blaid yn dod yn drydydd.

“Byddai hynna’n ganlyniad ofnadwy tasa’ fe’n digwydd a dwi’n credu bod dim modd dianc rhag hynna,” meddai.

“Fy nehongliad i ohono fe, o fewn y Blaid Lafur, yw mae yna neges glir - beth bynnag sy’n digwydd ar hyn o bryd, dyw pobl Cymru ddim yn teimlo’n hollol ffyddiog, yn glir taw'r Blaid Lafur maen nhw moyn i fod y blaid fwyaf. 

“Mae amser ‘da ni i newid nawr - beth weden i, dwi’n credu bod y ffaith bod pobl yn newid eu hymddygiad pleidleisio nhw - dwi’n credu bod e’n beth iach yn ddemocrataidd, bod pobl ddim yn pleidleisio oherwydd bod eu Tadcu nhw yn pleidleisio i rywun - y cyfle i ni, a’r her wedyn, yw dangos i unrhyw blaid eich bod chi’n swnio ac yn edrych fel dyfodol Cymru yn cyrraedd. 

“Mae amser gyda ni i ‘neud ‘na - os nawn ni ‘na, dwi’n ffyddiog iawn nawn ni lot gwell ‘na hyn, os na nawn ni ‘na, dyn ni ddim yn haeddu ennill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.