Beirniadu diffyg cymorth ariannol wedi Stormydd Bert a Darragh

Darragh

Doedd y cymorth ariannol ar gyfer bobl a busnesau a ddioddefodd wedi stormydd Bert a Darragh ddim yn ddigon da, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Dywedodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith bod y diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn "gic yn y dannedd" i fusnesau oedd yn gorfod cau ac i bobl a brofodd lifogydd yn eu tai.

Wedi'r stormydd ar ddiwedd 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a rhai awdurdodau y byddai grantiau brys o £500 a £1,000 ar gael i gartrefi a chymorth ychwanegol i fusnesau.

Mae'r adroddiad gan Bwyllgor y Senedd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn dweud bod y taliadau hyn "ymhell o fod yn ddigon i dalu cost gwirioneddol difrod y llifogydd a'r aflonyddwch a wynebodd teuluoedd a busnesau."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad cynhwysfawr ac fe fyddwn yn ymateb i'r argymhellion maes o law."

'Cau i lanhau'

Mae'r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth gan bobl a ddioddefodd oherwydd y llifogydd.

Un perchennog busnes sydd wedi dioddef yw Robbie Laing o Lanfair-ym-Muallt, ym Mhowys.

Dywedodd y perchennog siop ddodrefn wrth y pwyllgor ei fod wedi amcangyfrif iddo golli £15,000 mewn stoc, enillion a chostau glanhau.

“Nid y llifogydd go iawn sy’n peri’r annifyrrwch mwyaf i fi - ond yr wythnosau a’r misoedd ar ôl yn ceisio rhoi’r siop yn ôl at ei gilydd, dyna’r effaith fwyaf - gorfod cau i lanhau," meddai.

“Pan oedd llifogydd yn 2020, gwnaeth y cyngor drefniant i fusnesau fynd i ganolfannau ailgylchu am ddim, ond y llynedd doedden nhw ddim yn poeni, felly roedd yn rhaid i mi dalu arian ychwanegol o fy mhoced fy hun i gael gwared â miloedd o bunnoedd o stoc a gafodd ei ddifetha.

"Efallai na fyddai'r pethau hyn yn cael effaith mor sylweddol ar gorfforaethau mawr sy'n gallu anfon timau glanhau proffesiynol, ond i fusnesau bach sy'n gorfod gwneud popeth eu hunain, mae'r cyfan yn fwy o gost.

Yswiriant

"Fe wnes i geisio chwilio am grantiau neu unrhyw fathau eraill o gymorth oedd ar gael i mi wedyn, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ddim byd o gwbl. Dydw i dal ddim yn gwybod a oedd unrhyw beth ar gael, ond os oedd, ni chafodd lawer o gyhoeddusrwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: “Mae Canolfannau Ailgylchu Cartrefi wedi eu darparu ar gyfer trigolion, fel talwyr treth y cyngor, i gymryd y gwastraff cartref a'r gwastraff ailgylchu sydd ddim yn cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd.

"Ni chaniateir i fusnesau ddefnyddio’r cyfleusterau a rhaid iddynt wneud eu trefniadau eu hunain fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

"Efallai bod rhywfaint o ddefnydd cyfyngedig wedi’i ganiatáu i rai busnesau yn flaenorol. Ond yn y bôn mae’n rhaid iddynt wneud eu trefniadau eu hunain i gael gwared ar eu stoc sydd wedi’i difrodi gan lifogydd, a bydd y rhan fwyaf o fusnesau’n cymryd yswiriant at y diben hwn lle bo modd.”

Image
Peth o'r difrod yn ystod Storm Darragh
Peth o'r difrod yn ystod Storm Darragh

Mae Robbie Laing hefyd yn dweud bod y broses o gael yswiriant ar gyfer ei fusnes yn hynod rwystredig.

"Cefais ddyfynbris ar gyfer yswiriant a oedd yn cynnwys tâl-dros-ben o £10,000 y byddai'n rhaid i mi ei dalu i wneud hawliad.

"Gan ein bod yn fusnes bach gydag asedau nad ydynt ymhell o’r swm hwnnw, ac wrth wybod y byddai'r cwmni yswiriant yn herio pob ceiniog o hawliad, nid oedd yn gwneud synnwyr yn economaidd i gytuno iddo.”

Yn ôl tystiolaeth a gafodd ei chasglu gan y Groes Goch Brydeinig,  dim ond 5% o ddioddefwyr llifogydd ledled y DU a gafodd gymorth ariannol gan eu cyngor lleol, a dim ond 24% oedd yn teimlo bod y cymorth yn ddigonol. 

'Anniginol'

Clywodd y Pwyllgor fod awdurdodau lleol wedi ysgwyddo costau uchel iawn wrth atgyweirio ac uwchraddio seilwaith yn sgil y stormydd diweddar.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar ei ben ei hun wedi buddsoddi dros £100 miliwn mewn gwelliannau i leihau'r perygl o lifogydd ers Storm Dennis yn 2020.

Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i "egluro a chyhoeddi'r cyfrifoldebau hyn" a hefyd "cefnogi dull cenedlaethol, cydlynol o reoli cwlfertau, gan sicrhau y gall seilwaith wrthsefyll stormydd yn y dyfodol.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith bod angen gwaith heb oedi i gynnig cymorth i'r rhai sydd ei angen. 

“Dangosodd effaith stormydd y gaeaf diwethaf y realiti nad yw’r cymorth argyfwng, yr yswiriant na’r seilwaith presennol yn cyfateb i raddfa’r angen yng nghymunedau Cymru," meddai.

“Mae’r taliadau brys wedi bod yn annigonol o lawer, gyda rhai trigolion yn colli degau o filoedd o bunnoedd, a llawer yn cael fawr ddim cymorth.

“Wrth i newid hinsawdd ysgogi tywydd fwyfwy eithafol, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithredu ein hargymhellion heb oedi: ailwampio cyllid brys, egluro mynediad at yswiriant, gwella cymorth iechyd meddwl, a chreu dull cydgysylltiedig o ran seilwaith gwydn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.