Cyhuddo dyn o dreisio ger cylchfan ar gyrion Wrecsam

Wxm

Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o dreisio ger cylchfan ar gyrion Wrecsam.

Cafodd Gift Oladele, o Stryd Orchid, Manceinion, ei arestio yn oriau mân fore dydd Sul, 7 Medi, yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad ar Ffordd yr Wyddgrug yn y ddinas.

Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mawrth, ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 9 Hydref.

Mae swyddogion yr heddlu'n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd yr Wyddgrug, ger y gylchfan, rhwng 03:00 a 04:00 ddydd Sul, ac a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â nhw.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth roi gwybod drwy ffonio 101, neu drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddyfynnu'r cyfeirnod C140042.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.