Rhys Patchell yn cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o chwarae rygbi

Rhys Patchell

Mae cyn faswr Cymru, Rhys Patchell, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o chwarae rygbi.

Mae’r gŵr 32 oed o Benarth wedi dod â’i yrfa i ben ar ôl ennill 22 o gapiau dros Gymru a chwarae dros glybiau Rygbi Caerdydd, Scarlets, Highlanders yn Seland Newydd, ac yn fwy diweddar, Green Rockets Tokatsu yn Japan.

Yn ystod ei yrfa, fe sgoriodd ddau gais dros Gymru rhwng 2013 a 2023, ac roedd yn rhan o’r garfan genedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd 2019.

Fe enillodd y Pro12 gyda’r Scarlets yn 2017 yn ogystal. Ond fe ddioddefodd sawl anaf yn ystod ei yrfa, gan gynnwys problemau gyda chyfergyd i’w ben.

Fe fydd Patchell yn egluro mwy am ei resymau i roi’r gorau i’r gamp yn y gyfres ddogfen, ‘Rhys Patchell: Japan a’r Gic Olaf ‘ ar S4C ar 24 Medi.

Daw’r newyddion wrth i’r Dreigiau gyhoeddi y bydd Patchell yn ymuno â’u tîm hyfforddi fel hyfforddwr cicio ar gyfer y tymor newydd.

Dywedodd Rhys Patchell: "Mae'n teimlo'n go gymysglyd i wybod fy mod i wedi chwarae fy ngêm rygbi proffesiynol olaf. Mae'n amlwg fy mod i'n parhau i garu'r gêm, ond fyddai’n mynegi hynny mewn modd gwahanol o hyn ymlaen.

"O’n i bach yn gymysglyd ar y diwrnod hefyd – o'n i ddim ishe cymryd y boots i ffwrdd yn y stafell newid ar ôl achos o’n i'n gwybod mai dyna fe wedyn. Unwaith oedd y boots off, dyna oedd y diwrnod olaf."

Ychwanegodd: "Yn amlwg mae chwarae i Gymru a chwarae yng Nghwpan y Byd a'r Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality yn eiliadau bythgofiadwy ond fi'n credu’r peth fyddai'n cofio mwyaf yw'r bobl fi wedi ‘neud yr holl beth gyda. 

"Y rhai hynny sydd wedi fy nghefnogi i o'r ymylon –  wedi gyrru fi i ymarferion, golchi cit, bwydo fi - yr holl bethau yna – ond hefyd y bobl a'r chwaraewyr hynny fi wedi rhoi'r boots ymlaen a thorchi llewys wrth eu hymyl nhw. 

"Achos yn y bôn, unwaith ti'n sticio'r crysau lan ar y wal a ti'n penderfynu cau pen y mwdwl ar yr elfen chwarae, dyna'r unig beth sydd gen ti.

'Aros ynghlwm â'r gêm'

Wrth ymateb i'w benodiad fel hyfforddwr, dywedodd: "Y bwriad yw aros ynghlwm gyda'r gêm - yn amlwg mae rygbi dal yn rhan fawr o fy mywyd i a fi wedi trio aros ynghlwm gyda'r gêm. 

"Mae'r gwaith gyda'r Dreigiau yn rhywbeth fi'n joio mas draw ac rwy'n gobeithio aros yn y byd rygbi o ran y gwaith cyfryngau yn gweithio ar benwythnosau yn trafod gwahanol gemau sydd yn mynd ymlaen yn ystod y tymor.”

Dywedodd y Prif Hyfforddwr Filo Tiatia: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Rhys i weithio gyda’n carfan.

“Mae Rhys yn dod â gwybodaeth a phrofiad ar ôl chwarae ar y lefel uchaf, gan chwarae nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn Seland Newydd gyda’r Highlanders ac yn fwyaf diweddar yn Japan.

“Mae Rhys yn hyfforddwr ifanc sy’n meithrin perthynas gref gyda’r chwaraewyr yma ac rydym yn teimlo y bydd yn parhau i dyfu yn y rôl a gwneud argraff ar y Dreigiau.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.