Lluoedd Israel yn ymosod ar arweinwyr Hamas yn Qatar
Lluoedd Israel yn ymosod ar arweinwyr Hamas yn Qatar
Mae lluoedd Israel wedi ymosod ar arweinwyr Hamas ym mhrifddinas Qatar yn y Dwyrain Canol.
Mae Hamas yn dweud fod chwech o bobl wedi eu lladd, yn cynnwys aelod o luoedd diogelwch Qatar, ond maen nhw'n nodi fod eu tîm o swyddogion nhw wedi goroesi'r ymosodiad.
Mewn cam fydd yn cynyddu tensiynau ymhellach yn y rhanbarth, mae llywodraeth Qatar wedi disgrifio'r ymosodiad fel un sydd yn groes i gyfraith ryngwladol, ac yn peryglu ei dinasyddion yn y wlad.
Fe fydd hefyd yn tanseilio unrhyw obaith am gadoediad rhwng Hamas ag Israel, ac yn peryglu diogelwch y gwystlon sydd yn nwylo Hamas, wedi misoedd o drafodaethau heddwch.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Llu Amddiffyn Israel (IDF) ac Asiantaeth Diogelwch Israel (ISA) eu bod wedi cynnal "ymosodiad manwl" oedd yn targedu arweinyddiaeth sefydliad Hamas.
"Ers blynyddoedd, mae'r aelodau hyn o arweinyddiaeth Hamas wedi arwain gweithrediadau'r sefydliad terfysgol, yn gyfrifol yn uniongyrchol am y gyflafan greulon ar 7 Hydref, ac wedi bod yn trefnu a rheoli'r rhyfel yn erbyn Gwladwriaeth Israel.
"Cyn yr ymosodiad, cymerwyd mesurau er mwyn lliniaru niwed i sifiliaid, gan gynnwys defnyddio arfau rhyfel penodol a chudd-wybodaeth ychwanegol.
"Bydd yr IDF a'r ISA yn parhau i weithredu gyda phenderfyniad er mwyn trechu'r sefydliad terfysgol Hamas sy'n gyfrifol am y gyflafan ar 7 Hydref."
Mae swyddfa prif weinidog Israel wedi mynnu mai dim ond Israel oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, yn dilyn adrodiadau bod UDA wedi bod o gymorth yn y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd swyddfa Benjamin Netanyahu: "Roedd gweithred heddiw yn erbyn prif benaethiaid terfysgol Hamas yn ymgyrch Israelaidd gwbl annibynnol.
"Israel a'i cychwynnodd, Israel a'i cynhaliodd, ac mae Israel yn cymryd cyfrifoldeb llawn."
Mae Iran wedi beirniadu'r ymosodiad, gan ei ddisgrifio fel "cam peryglus."
Dywedodd llefarydd Syr Keir Starmer wrth ohebwyr brynhawn dydd Mawrth: “Byddwch yn gwerthfawrogi bod yr adroddiadau hyn dod i’r amlwg nawr. Rydym yn eu monitro wrth i fwy o fanylion ddod i’r amlwg.
“Rydym wedi bod yn glir bod Hamas yn sefydliad terfysgol ffiaidd sy’n gyfrifol am yr ymosodiad ciaidd ar Israel ar Hydref 7, ond nid ydym am weld cynnydd mewn trais sy’n arwain at ansefydlogrwydd pellach yn y rhanbarth.
“Ein blaenoriaeth gyffredinol yw gweld diwedd ar y dioddefaint erchyll yn Gaza, gan ddechrau gyda chadoediad ar unwaith, rhyddhau’r holl wystlon a chynnydd mewn cymorth dyngarol, gan arwain at … heddwch i Israeliaid a Phalesteiniaid, heddwch yn y rhanbarth ehangach.”
Gwadodd Rhif 10 fod gan y llywodraeth unrhyw wybodaeth flaenorol am yr ymosodiad, gan ddweud ei fod yn “ymgyrch dan arweiniad Israel” ac yn “ymgyrch gwbl annibynnol”.
Llun: Reuters