Cwymp yn y nifer sy'n wynebu digartrefedd yng Nghymru

S4C

Mae cwymp wedi bod yn nifer y bobl a theuluoedd sydd yn ddigartref yng Nghymru, yn ogystal â’r bobl sydd yn agos i wynebu digartrefedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd, sydd yn edrych ar yr aelwydydd (unigolion neu deuluoedd) sydd mewn llety dros dro neu sy'n gwneud cais am gymorth tai, wedi eu rhyddhau ddydd Mawrth.

Yn ôl yr ystadegau, roedd 7,920 o aelwydydd yn wynebu’r posibilrwydd o fod heb gartref, sydd yn 10% yn llai na’r nifer ar gyfer 2023-24.

Mae hyn yn golygu pobl neu deuluoedd sydd wynebu bod heb gartref o fewn 56 diwrnod, pe na bai llety neu gartref newydd yn cael eu canfod iddyn nhw gan awdurdod lleol.

Ond o’r rhai oedd yn wynebu’r posibilrwydd o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod, fe lwyddodd cynghorau lleol i ganfod llety neu gartref mewn 57% o achosion, sef ffigwr tebyg i’r llynedd (58%).

Mae 13,287 o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu hystyried yn ddigartref ar hyn o bryd, ac angen cymorth i ganfod llety, sydd yn cynrychioli cwymp bychan o 2% o’r flwyddyn flaenorol.

Mae 6,285 o unigolion neu deuluoedd yng Nghymru yn parhau i aros mewn llety dros dro, sydd yn gwymp o 3% ers y llynedd.

O'r rhain, roedd 2,397 (38%) yn aros mewn gwestai gwely a brecwast, sydd yn llai na chanran y llynedd (42%).

'Bywydau pobl gyffredin'

Mae'r elusen Shelter Cymru wedi dweud bod angen "newid radical i droi'r llanw" o ddigartrefedd.

Wrth ymateb i'r ystadegau, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru, Ruth Power: “Mae’r ystadegau a sydd wedi eu rhyddhau heddiw unwaith eto’n tynnu sylw at raddfa’r argyfwng tai yng Nghymru. Gyda mwy na 13,000 o aelwydydd wedi’u hasesu’n ddigartref y llynedd a thros 6,000 wedi’u dal mewn llety dros dro.

“Y tu ôl i’r ystadegau hynny mae bywydau pobl gyffredin, ac mae Shelter Cymru’n clywed bob dydd gan unigolion a theuluoedd sy’n profi realiti torcalonnus yr argyfwng tai. 

"Argyfwng a all olygu cyfnodau hir yn byw mewn gwesty Gwely a Brecwast, aros degawdau o hyd am gartref cymdeithasol, a byw gyda’r risg bron yn gyson o gael eu troi allan neu godiadau rhent llethol i bobl sy’n sownd yn rhentu’n breifat.

“Gyda’r un stori’n cael ei hadrodd gan yr ystadegau bob blwyddyn, mae’n amlwg bod angen newid radical i droi’r llanw.

"Gyda deddfwriaeth ddigartrefedd a allai fod yn drawsnewidiol gerbron y Senedd ac etholiad ar y gorwel, credwn mai nawr yw’r amser i bob plaid wleidyddol yng Nghymru ymrwymo i ddod â’r argyfwng tai i ben unwaith ac am byth."

'Atal yw'r ffocws'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn mynd i’r afael yn weithredol â digartrefedd yng Nghymru, ac rydym yn parhau i fabwysiadu dull ‘peidiwch â gadael neb allan’ fel na ddylai neb gael ei orfodi i gysgu ar y stryd. 

“Atal yw’r ffocws a’r flaenoriaeth o hyd i leihau llif y bobl sydd angen llety dros dro – ac rydym yn buddsoddi bron £220m mewn i atal digartrefedd a chymorth tai eleni yn unig."

Ychwanegodd llefarydd: “Ochr yn ochr â’r buddsoddiad hwn, mae Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar, sydd wedi’i seilio ar fewnwelediad ac arbenigedd pobl sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd, yn anelu at drawsnewid y system bresennol yng Nghymru i ganolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach – gan ddarparu mwy o offer i gefnogi pobl i gartrefi tymor hwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.