
Rheilffordd Talyllyn yn cofio gwirfoddolwr a fu farw yn namwain Lisbon
Mae rhubanau du wedi eu clymu ar drenau Rheilffordd Talyllyn ddydd Mawrth i gofio am ddyn 82 oed o Gaergybi, a fu farw yn y ddamwain tram yn Lisbon, Portiwgal ddydd Mercher diwethaf.
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun bod Andrew David Kenneth Young yn un o dri o'r Deyrnas Unedig a fu farw yn y ddamwain.
Roedd yn ymddiddori mewn trenau a rheilffyrdd ac yn un o wirfoddolwyr Rheilffordd Talyllyn yng Ngwynedd.
Mewn datganiad fore Mawrth, dywedodd swyddogion y rheilffordd bod y newyddion wedi eu tristáu: "Roedd David yn wirfoddolwr ers sawl blwyddyn ac yn rhan o'r tîm cynnal a chadw'r cledrau, ac roedd o hefyd yn mwynhau dyddiau tawelach yn gwirfoddoli yn ein hamgueddfa.
"Rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau, ac wrth gwrs - pawb arall sydd wedi colli rhywun yn y ddamwain drasig hon.
"Bydd rhubanau du ar ein trenau heddiw er cof amdano."

Wrth roi teyrnged iddo ddydd Llun, nododd teulu David Young iddo gael ei fagu yn Auchterarder, Sir Perth.
Symudodd i Gaergybi ym 1980, gan gael gyrfa hir fel swyddog tollau.
"Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn trafnidiaeth drwy gydol ei oes, ac wedi iddo ymddeol, roedd yn mwynhau ymweld â rheilffyrdd a thramffyrdd treftadaeth ar draws y byd.
"Mae'n gysur i'w feibion, eu Mam nhw, a'i frodyr fod ei eiliadau olaf wedi eu treulio yn dilyn un o'r diddordebau a roddodd gymaint o hapusrwydd iddo," meddai'r teulu
Cafodd 16 o bobl eu lladd yn y ddamwain ym mhrifddinas Portiwgal.