Joe Allen yn cael ei anrhydeddu cyn gêm Cymru yn Abertawe
Cafodd Joe Allen gymeradwyaeth fawr yn Stadiwm Swansea.com nos Fawrth wrth iddo dderbyn tlws yn gydnabyddiaeth o'i yrfa ddisglair.
Derbyniodd y tlws gan arwr Cymru a llywydd anrhydeddus Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis, ychydig funudau cyn y gic gyntaf rhwng Cymru a Chanada, mewn gêm gyfeillgar rhwng y ddau dîm.
Camodd Joe Allen i'r cae am y tro olaf fis Mai diwethaf wrth i Abertawe herio Oxford United yn y Bencampwriaeth, gan ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol ac o'i glwb.
Cynrychiolodd ei wlad 77 o weithiau, gan sgorio ddwywaith, a chystadlu ym mhencampwriaethau mwya'r byd, gan gynnwys Euro 2016, Euro 2020 a Chwpan y Byd yn 2022.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1965486259746259223
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynardd Arberth ac Ysgol Gyfun Y Preseli yng Nghrymych, Sir Benfro, chwaraeodd Allen ei gêm gyntaf dros Gymru ym mis Mai 2009 pan oedd yn 20 oed.
Fe ddaeth ymlaen i'r cae fel eilydd i Jack Collison yn erbyn Estonia ar Barc y Scarlets, wrth i Gymru ennill 1-0.
Ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Allen dros Gymru am y tro cyntaf mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 yn erbyn y Swistir yn Stadiwm Swansea.com
Yn yr un flwyddyn, enillodd deitl chwaraewr y flwyddyn i Gymru.
Bu Allen yn un o brif chwaraewyr y garfan yn ystod y blynyddoedd canlynol, a chafodd y fraint o arwain ei wlad yn gapten, yn absenoldeb Ashley Williams.
Oherwydd safon ei berfformiadau yn Euro 2016, cafodd ei gynnwys yn 'nhîm y gystadleuaeth' gydag Aaron Ramsey.
Cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror 2023, ond daeth cadarnhad ym mis Hydref 2024 ei fod yn dychwelyd i garfan Cymru o dan arweiniad y prif hyfforddwr, Craig Bellamy.
Dechreuodd Allen ei yrfa broffesiynol gydag Abertawe yn 2000, gan chwarae 127 o gemau i'r Elyrch yn y cyfnod hwn a sgorio saith o goliau.
Wedi cyfnod byr ar fenthyg gyda Wrecsam, aeth ymlaen i chwarae i Lerpwl am bedair blynedd a Stoke am chwe blynedd.
Fe chwaraeodd 91 o gemau dros Lerpwl, a dros 200 o gemau i Stoke.
Ond dychwelodd y Pirlo Cymreig i Abertawe yn 2022, gan barhau yno tan ddiwedd ei yrfa.
Fe chwaraeodd 68 gem dros yr Elyrch yn ei ail-gyfnod gyda'r clwb.
Llun: Sgorio