Y band Adwaith i gymryd saib ar ôl degawd o berfformio

Adwaith / Gwefan Libertino Records.png

Bydd y band o Gaerfyrddin, Adwaith, yn cymryd saib ar ôl degawd o berfformio.

Fe wnaeth Hollie Singer, Gwenllïan Anthony a Heledd Owen gyhoeddi'r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fawrth.

"Fel mae rhai o chi'n gwybod, ni'n dathlu 10 mlynedd o Adwaith blwyddyn yma sydd yn wyllt," meddai'r band mewn datganiad.

"Ni wedi bod rownd y byd a nôl yn rhannu ein cerddoriaeth, iaith a diwylliant mewn llefydd anhygoel a gyda phobl anhygoel. Ni mor ddiolchgar am bob cyfle, gig, ffan a gwir yn werthfawrogi y cefnogaeth i gyd.

"Ond ni yn teimlo fel bod e'n amser i gymryd saib bach. I fyw bywyd normal, i wneud pethau arall, i ffeindio ysbrydoliaeth unwaith eto.

"Ni eisiau'r albwm nesa i fod yn gwell na phopeth ni wedi neud o'r blaen a mae angen bach o amser i ddarganfod y sŵn, a'r llwybr ni eisiau mynd lawr."

Fe aeth y datganiad ymlaen i ddweud: "Felly, dewch i ymuno a dathlu gyda ni yn gweddill y gigs blwyddyn yma. Dim hwyl fawr yw hyn ond gweld chi cyn bo' hir!"

Fe gafodd Adwaith ei sefydlu yn 2015, ac ers hynny mae'r band wedi mynd o nerth i nerth, gan berfformio adeg ymgyrch tîm pêl-droed menywod Cymru yn y Swistir yn ystod yr haf.

Fe wnaeth eu halbwm gyntaf, Melyn, ennill y wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019. 

Dair blynedd yn ddiweddarach fe wnaeth eu hail albwm, Bato Mato, ennill yr un wobr. Adwaith oedd y band cyntaf i ennill y wobr ddwywaith.

Rhyddhawyd trydydd albwm y band, Solas, ym mis Chwefror 2025.

Llun: Libertino Records

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.