
Gwrthfiotig newydd yn cynnig 'gobaith' i fenywod gyda haint dŵr cronig
Mae dynes o Fangor sy'n dioddef o haint dŵr cronig yn dweud bod gwrthfiotig newydd yn cynnig "gobaith" i fenywod gyda'r cyflwr.
Daw sylwadau Non Morris Jones, 27, ar ôl i'r rheoleiddiwr meddyginiaeth gymeradwyo gwrthfiotig newydd i drin yr haint am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Gall menywod y DU sy'n dioddef o haint dŵr ddefnyddio gepotidacin, meddai'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Mae cynhwysyn yn y feddyginiaeth yn ei gwneud hi'n anoddach i facteria wrthsefyll y driniaeth, sy'n "hanfodol" wrth fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthfiotig.
Haint ar y bledren ydi haint dŵr sy'n cael ei achosi gan facteria fel E.coli, ac mae'n lawer mwy cyffredin mewn menywod na dynion.
Mae'r symptomau'n cynnwys teimlad o losgi wrth basio wrin, tymheredd uchel, poen yn y bol a'r cefn, ac angen pasio wrin yn amlach nag arfer.
A hithau wedi bod yn dioddef o'r haint yn gronig ers ei harddegau cynnar, mae Non yn dweud bod y feddyginiaeth newydd yn "gychwyn da".
"Mae’n gychwyn da bo' nhw wedi gwneud ymchwiliad i mewn i'r cyflwr yma," meddai wrth Newyddion S4C
"Achos oedd o’n bryder bo' nhw [meddygon] 'chydig yn dismissive a bo' nhw ddim cweit yn dalld ac yn deud tria hwn, tria llall.
"Felly dw i'n meddwl bod gwneud ymchwiliad a dod i fyny efo tabled newydd yn gychwyn da – boed o’n gweithio ai beidio, gawn ni weld."

Er bod Non yn croesawu'r feddyginiaeth newydd, mae hi'n bryderus am y gorddefnydd o wrthfiotigau.
Mae'r fyfyrwraig y gyfraith bellach yn galw ar feddygon i ymchwilio i achosion cronig o'r cyflwr sydd ddim yn ymateb i feddyginiaeth.
"Pan ti’n ei chanol hi efo UTI, mae’n rili cal chdi i lawr ac mae o wedi cael fi i lawr am flynyddoedd, jyst methu allan ar stwff, " meddai.
"Felly mae clywed y doctor yn deud i gwynab chdi, 'ia, does na'm llawer o obaith rili ar ôl yr antibiotig yma' yn bryder ofnadwy.
"Do'n i byth yn teimlo fel bod nhw'n gwrando arno fi, oeddan nhw’n rhoi’r antibiotig i fi ac yn deud ella nai ddod yn resistant iddyn nhw."
Beth yw'r gwrthfiotig newydd?
Mae'r MHRA wedi rhoi'r golau gwyrdd i gepotidacin i drin achosion o haint dŵr mewn menywod dros 12 oed sy'n pwyso o leiaf 40kg.
Mae'r feddyginiaeth newydd yn gweithio trwy rwystro dau ensym bacteriol, gan atal y bacteria rhag atgynhyrchu.
Mae treialon yn awgrymu bod gepotidacin yr un mor effeithiol â nitrofurantoin, sef y gwrthfiotig mwyaf cyffredin i drin yr haint ar hyn o bryd.
Dywedodd Julian Beach, cyfarwyddwr gweithredol dros dro ansawdd a mynediad gofal iechyd yr MHRA: "Mae cadw cleifion yn ddiogel a galluogi eu mynediad at feddyginiaethau o ansawdd uchel, diogel ac effeithiol yn flaenoriaethau allweddol i ni.
"Fel y math newydd cyntaf o wrthfiotig i drin achosion syml o'r haint i gael ei gymeradwyo mewn bron i dair degawd, mae gepotidacin yn darparu opsiwn triniaeth newydd i fenywod sy'n wynebu heintiau rheolaidd sy'n gallu effeithio'n ddifrifol ar fywyd bob dydd.
"Mae mecanwaith gweithredu wedi'i dargedu'r gwrthfiotig yn ei gwneud hi'n anoddach i facteria ddatblygu ymwrthedd i driniaeth – ffactor hanfodol gan fod bacteria sy'n gwrthsefyll meddyginiaeth ar gynnydd yn fyd-eang."
Mae'r rheoleiddiwr yn argymell bod cleifion yn cymryd dau gepotidacin ddwywaith y dydd am bum niwrnod, bob tua 12 awr.
Ond cyn iddo gael ei ragnodi ar y GIG, bydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn ystyried cost-effeithiolrwydd y cyffur.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae canllawiau eisoes ar gael gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar ddiagnosio a rheoli heintiau’r llwybr wrinol, gan gynnwys heintiau rheolaidd a mater stiwardiaeth gwrthficrobaidd.
"Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd yng Nghymru ystyried y canllawiau hyn wrth ddarparu gofal.
“Mae Cynllun Iechyd Menywod Cymru yn amlinellu sut rydym yn benderfynol o wella gwasanaethau iechyd menywod yng Nghymru, sy’n cynnwys sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ym mhob rhyngweithio sydd ganddynt â’r GIG.”