Cynllun newydd yn anelu at weld '1,000 yn llai o drawiadau ar y galon a strôcs yng Nghymru'
Bydd cynllun newydd i atal clefyd cardiofasgwlaidd yn anelu at weld "llai o bobl yn dioddef trawiadau ar y galon a strôcs yng Nghymru."
Dyna mai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrth iddyn nhw geisio trin hyd at 70,000 yn fwy o bobl sydd â phwysedd gwaed uchel yn y wlad.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y cynllun yn arbed £18 miliwn y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd dros gyfnod o dair blynedd.
Dan y cynllun newydd fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn "edrych ar yr effaith y bydd atal clefyd cardiofasgwlaidd yn ei chael ar unigolion a'u teuluoedd - yn ogystal â chyllideb y GIG."
Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn disgrifio ystod o gyflyrau sy'n effeithio ar y galon a'r pibellau gwaed, a all arwain at ganlyniadau difrifol a bygwth bywyd fel trawiadau ar y galon a strôc.
Bydd y corff iechyd yn defnyddio data i ddangos y manteision posib o gefnogi nifer sydd yn arddangos ffactorau risg clefyd cardiofasgiwlar, gan gynnwys rheoli eu pwysedd gwaed a'u colesterol, y risg o ddatblygu diabetes, eu pwysau, a'u cefnogi i roi'r gorau i ysmygu.
'Cyfle na ellir ei golli'
Os byddai tua 17,000 o gleifion yn derbyn cefnogaeth i reoli eu pwysedd gwaed, byddai 102 o drawiadau ar y galon a 152 o strôcs yn cael eu hatal, yn ôl y data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r corff yn dweud pe byddai modd rheoli pwysedd gwaed tua 70,000 yn fwy o gleifion byddai 419 o drawiadau ar y galon a 626 o strôcs yn cael eu hosgoi.
Hefyd mae modd atal "hyd at 80% o farwolaethau cynnar o glefyd cardiofasgwlaidd" trwy wneud newidiadau bach fel newid diet.
Dywedodd Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y cynllun "er budd pawb".
“Mae ein cynllun atal newydd yn rhoi’r person wrth wraidd eu gofal, gan gydnabod bod pobl yn debygol o fod â mwy nag un risg cardiofasgwlaidd.
“Yn ogystal, bydd yn lleihau baich ariannol trawiadau ar y galon a strôc – mae clefyd cardiofasgwlaidd yn costio hyd at £1.6 biliwn i economi Cymru yn gyffredinol bob blwyddyn o ganlyniad i farwolaethau cynamserol, anabledd a gofal hirdymor.
"Felly er budd pawb, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach a lleihau’r costau hyn i’r economi.
“Mae’n gyfle na ellir ei golli.”