Craig Bellamy 'eisiau gêm heriol' yn erbyn Canada

Craig Bellamy 'eisiau gêm heriol' yn erbyn Canada

Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy yn dweud ei fod "eisiau gêm heriol' yn erbyn Canada nos Fawrth.

Bydd Cymru yn herio'r tîm o ogledd America yn Stadiwm Swansea.com nos Fawrth bum diwrnod ar ôl ennill 1-0 oddi cartref yn erbyn Kazakhstan.

Er i Gymru ennill y gêm roedd Kazakhstan wedi taro'r bar ar ddau achlysur ac wedi bod y tîm cryfaf yn yr ail hanner.

Ond roedd y fuddugoliaeth yn un bwysig i Gymru yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026 - a fydd yn cael ei chwarae yng Nghanada, America a Mecsico.

Tair gwaith yn unig mae Cymru a Chanada wedi cwrdd. Y diweddaraf oedd 2004 pan sgoriodd Paul Parry unig gôl y gêm wrth i Gymru ennill 1-0.

Enillodd Canada 3-0 yn erbyn Rwmania mewn gêm gyfeillgar ym Bucharest ddydd Gwener ddiwethaf.

Dyna oedd eu gêm gyntaf ers iddyn nhw gael eu trechu ar giciau o'r smotyn gan Guatemala yng Nghwpan Aur Concacaf ym mis Mehefin.

'Prawf da'

Dywedodd Bellamy ei fod yn edrych ymlaen at yr her o wynebu Canada.

"Pan rwy'n edrych ar Ganada dwi'n edrych ar sut maen nhw'n chwarae, rhoi'r pwysau ar yr amddiffyn a pha mor ddwys maen nhw ar y cae," meddai wrth Sgorio.

"Bydd yn brawf da ar gyfer bob dim rydyn ni yn ceisio gwneud, ac mae angen hynny arnom ni.

"Rydyn ni angen y lefel yna o fod yn anghyfforddus ar adegau, a dysgu sut i fod yn gyfforddus mewn sefyllfaoedd fel hynny."

Ychwanegodd: "Fe fydd yn ein galluogi i wella, felly rwy'n eithaf cyffrous i wynebu Canada.

"Rwy’n gwybod y bydd hi yn gêm heriol a dyna rydyn ni eisiau."

Capiau cyntaf?

Mae'n bosib y bydd rhai chwaraewyr di-gap yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf nos Fawrth.

Efallai y bydd Kai Andrews, Ronan Kpakio a Joel Colwill yn ennill eu capiau cyntaf dros Gymru yn Abertawe.

Nid oes disgwyl i rai o brif chwaraewyr Cymru chwarae, gan ei fod yn gêm gyfeillgar.

Mae'n ddigon posib felly y bydd Adam Davies yn cychwyn fel golwr, a bydd ymddangosiadau i chwaraewyr fel Ben Cabango, Jay Dasilva a Charlie Crew.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.