
Nodyn honedig gan Trump yn 'llyfr penblwydd' Jeffrey Epstein
Mae copi o "lyfr penblwydd" a gafodd ei rhoi i'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein wedi ei gyhoeddi sydd yn cynnwys nodyn a gafodd ei arwyddo yn honedig gan yr Arlywydd Donald Trump.
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi gan un o bwyllgorau cyngres yr Unol Daleithiau.
Mae nifer o ddogfennau eraill hefyd wedi eu cyhoeddi gan gynnwys ewyllys Epstein a'i lyfr cyfeiriadau personol. Yn y llyfr hwnnw mae enwau brenhinol, gwleidyddion ar draws y byd, arweinwyr busnes ac enwogion.
Mae'r Tŷ Gwyn wedi gwadu bod y llythyr honedig gan Trump yn un dilys. Mae'n cynnwys llun o gorff menyw. Yn ôl y Tŷ Gwyn wnaeth yr arlywydd "ddim tynnu'r llun yma nac ei arwyddo".

Cafodd y llyfr 238 tudalen ei lunio ar gyfer penblwydd 50 Epstein gan ei gyn-gariad Ghislaine Maxwell. Yn 2021 cafodd hi ei chanfod yn euog o gynllwynio gydag ef i fasnachu merched ar gyfer rhyw.
Yn ogystal â'r nodyn honedig gan Trump mae neges gan yr Arglwydd Peter Mandelson sydd yn Llysgennad Prydain ar gyfer yr Unol Daleithiau. Yn y neges mae'n galw Epstein yn "ei ffrind pennaf".
Mae llefarydd ar gyfer yr Arglwydd Mandelson wedi dweud wrth y BBC ei fod wedi bod yn glir ers peth amser ei fod yn difaru yn fawr cael ei gyflwyno i Epstein.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r arlywydd wynebu pwysau cynyddol i fod yn fwy tryloyw ynglŷn â beth mae ymchwiliadau i weithredoedd Epstein wedi darganfod.
Mae Trump wastad wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhywbeth amhriodol gyda Epstein.