Ffrainc mewn argyfwng gwleidyddol ar ôl i'r Prif Weinidog golli pleidlais
Mae Ffrainc mewn argyfwng gwleidyddol ar ôl i'r Prif Weinidog François Bayrou golli pleidlais o hyder yn y Cynulliad Cenedlaethol nos Lun.
Bydd Bayrou nawr yn cyflwyno ei ymddiswyddiad i'r Arlywydd Macron a bydd yn rhaid i Macron benderfynu ar y camau nesaf.
Mae ganddo ddau ddewis- galw etholiad brys neu ddewis prif weinidog newydd.
Y darogan yw y bydd yn dewis prif weinidog arall, y pumed mewn llai na dwy flynedd a hynny o fewn y "dyddiau nesaf".
Cafodd ffawd Bayrou ei selio wedi iddo fethu ag argyhoeddi gwleidyddion ar y chwith na'r dde o'i gynlluniau ariannol.
Mae nifer o arbenigwyr ariannol yn darogan bod Ffrainc yn wynebu heriau ariannol anferth yn y blynyddoedd nesaf wrth i'r gost sydd yn cael ei amcangyfrif am dalu am ddyledion y wlad godi i fwy na €100 biliwn yn 2030.
Llun: François Bayrou, o wefan Mouvement Democrate